Yr hyn a guddiwyd / What was hidden (1)

Yr hyn a guddiwyd / What was hidden (1)

Regular price
£245.00
Sale price
£245.00
Regular price
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

Siarcol (o'r ffawydd ddisgynedig) ar bapur pastel

Charcoal (from fallen beech) on pastel paper

35 x 44cm

“Mae’r corff hwn o waith yn dadlenu drwy gyfres o luniadau siarcol , gwnaed y siarcol gan John Egan o ffawydden a syrthiodd. Gan gario gweddillion ei bywyd blaenorol, daw’r deunydd yn gyfrwng ac yn bwnc ar yr un pryd, gan adlewyrchu cylchoedd o drawsnewid a chyfnewid sy’n symud drwy bob mater. Gan ddefnyddio’r siarcol, canolbwyntiais ar goed eraill a oedd wedi syrthio yn y Winllan ym Mhlas Glyn-y-Weddw, gan luniadu fel ffordd o olrhain cyflwr cyffredin o gwymp, adfywio a pharhad. 

Cefais fy nenu dro ar ôl tro at y gwreiddiau sydd wedi’u troi wyneb i waered, lle mae’r ddaear wedi rhwygo gan ddatgelu ceudodau a mannau mewnol sydd fel arfer yn gudd ac o’r golwg. Mae’r agoriadau hyn yn awgrymu pwyntiau o gysylltiad a throsglwyddiad, lle mae egni’n cylchredeg rhwng yr hyn sy’n weladwy a’r hyn sy’n parhau’n gudd. 

Weithiau mae’r ffurfiau’n adleisio elfennau o anatomi dynol; ar adegau eraill maent yn datgelu darnau dychmygol o’r amgylchedd adeiledig, gan niwlio’r ffiniau rhwng corff, strwythur a thirwedd. Wedi’u cysylltu ers tro â llên gwerin a myth ar draws diwylliannau, mae’r mannau hyn yn teimlo’n elfennol ond yn anodd eu dal, yn hofran rhwng y cyfarwydd a’r anadnabyddus.” 

– Alex Boyd Jones 

“This body of work unfolds through a series of drawings using charcoal made by John Egan from a fallen beech tree. Carrying the residue of its former life, the material becomes both medium and subject, reflecting cycles of transformation and exchange that move through all matter. Using this charcoal, I focused on other fallen trees in the Winllan at Plas Glyn-y-Weddw, drawing as a way of tracing shared states of collapse, regeneration and continuity.

I was repeatedly drawn to the upturned root systems, where ruptured ground reveals cavities and internal spaces usually hidden from view. These openings suggest points of connection and transmission, where energy circulates between what is exposed and what remains unseen. 

At times, the forms echo elements of human anatomy; at others, they reveal imagined fragments of the built environment, blurring distinctions between body, structure and landscape. Long associated with folklore and myth across cultures, these spaces feel elemental yet elusive, hovering between the familiar and the unknowable.”

Alex Boyd Jones