Collection: Teresa Jones

"Fy enw yw Teresa Jones, yn enedigol o Waunfawr, Arfon.
Mae gen i ddiddordeb mewn celf erioed, ond pan yn hanner cant, daeth y cyfle i astudio fel myfyriwr hŷn yng Ngholeg Menai a graddio oddi yno gyda rhagorieth mewn celf a dylunio.
Mae’r Gymraeg gyda’r hynaf o ieithoedd y byd a bu sawl ymgais dros y canrifoedd i’w dilorni a’i dileu. Erbyn heddiw, me hi wedi ei rhoi ar restr ieithoedd mewn perygl.
Mae llawer o draddodiadau’r Cymry wedi hen farw o’r tir a chredaf bod y Gymraeg yn y sefyllfa mwya’ bregus yn ei hanes, ac mai edau frau iawn sydd yn ei dal gyda’i gilydd.
Mae rhan helaeth o fy ngwaith yn ymwneud a Chymru, ei hiaith a’i llenyddiaeth, ei thraddodiadau a’i thir a’i phobl ac mae’n hanfodol bwysig i mi fel artist a chenedlaetholwraig i ymdrin a’r pethau hyn drwy gyfrwng fy nghelf. Yn aml iawn daw ysbrydoliaeth o farddoniaeth; teimlaf fy mod yn hiraethu ac yn galaru am golled canrifoedd ond bod eto obaith ar y gorwel.
Nid wyf yn cyfyngu fy hun i unrhyw gyfrwng penodol ac yn hyblyg yn fy newis o ddefnyddiau."

6 products
  • Cwmorthin IV
    Regular price
    £375.00
    Sale price
    £375.00
    Regular price
    Unit price
    per 
    Sold out
  • Tua'r Mynydd - Crawiau ac Adfeilion Barics
    Regular price
    £375.00
    Sale price
    £375.00
    Regular price
    Unit price
    per 
    Sold out
  • Suffragette
    Regular price
    £275.00
    Sale price
    £275.00
    Regular price
    Unit price
    per 
    Sold out
  • Dal dy dir 2
    Regular price
    £175.00
    Sale price
    £175.00
    Regular price
    Unit price
    per 
    Sold out
  • Dal dy dir 1
    Regular price
    £175.00
    Sale price
    £175.00
    Regular price
    Unit price
    per 
    Sold out
  • Cwmorthin III
    Regular price
    £375.00
    Sale price
    £375.00
    Regular price
    Unit price
    per 
    Sold out