Collection: Ian Ross

Dechreuais ymddiddori mewn celf, lluniadu, braslunio a phaentio yn ifanc; roeddwn i'n ffodus i gael fy annog, fel llawer rwy'n siŵr, gan fy athro celf gwych, William Selwyn. Ni fydd yr angerdd a'r brwdfrydedd byth yn cael eu anghofio.
Wrth dyfu i fyny, roedd llwybr fy ngyrfa yn golygu nad oedd amser i ganolbwyntio ar baentio. Fodd bynnag, yn fy mhedwardegau hwyr, llwyddais i ddychwelyd at fy nghariad at gelf.
Wedi fy ngeni a'm magu yng Nghaernarfon, rwy'n caru ac yn gwerthfawrogi'r hyn sydd gennym yn ein hardal. Rwy'n cael fy ysbrydoliaeth o'n tirwedd anhygoel, yn bennaf Dyffryn Ogwen. Ceisiaf ail-greu y gwahanol liwiau llechi a carreg yn fy ngwaith.

I became interested in art, drawing, sketching and painting at a young age; I was lucky to be encouraged, as were many, I’m sure, by the brilliant William Selwyn, our art teacher.  The passion and enthusiasm will never be forgotten.
Growing up, the career path I took didn’t give me time to focus on my painting.  However, in my late forties, I was able to return to my love of art.
Born and bred in Caernarfon, I love and appreciate what we have in our area.  I get my inspiration from our amazing landscape, mainly Dyffryn Ogwen, and I try to re-create the different colours in the slate and stone in my work.

0 products

Sorry, there are no products in this collection