Collection: Jonty Storey

Yn syrffiwr, tad, aelod o griw Bad Achub, gwneuthurwr delweddau a darlunydd, mae Jonty Storey yn Gyfarwyddwr Creadigol yn stiwdio ddylunio Cardigan, a redir gan ŵr a gwraig. Mae’n byw wrth y môr yn Llanbedrog, Gogledd Cymru, gyda’i wraig a’i ddau o blant.
Dechreuodd cysylltiad Jonty â’r môr tra’n treulio gwyliau yn carafanio  ar yr arfordir pan yn blentyn. Arweiniodd hafau yng ngogledd Cymru, ynghyd â blynyddoedd yn gweithio mewn siopau syrffio lleol, at angerdd gydol oes – obsesiwn bron – am fod yn y môr ac arno. Wrth dyfu i fyny yng nghefn gwlad Swydd Gaer, daeth ei ddihangfa trwy gylchgronau sglefrio ei frawd hynaf a thapiau VHS: cipolwg ar ddiwylliant bohemaidd syrffio a sglefrio’r 80au a’r 90au, bydau ymhell o’i fagwraeth wledig, a dylanwad parhaol ar ei gyfeiriad creadigol.

Ar ôl gorffen coleg celf yn Northwich, rhannodd Jonty ei amser rhwng gaeafau yn eirafyrddio yn yr Alpau a Mynyddoedd Creigiog Canada, a hafau yn syrffio yng Nghymru. Dechreuodd gynhyrchu grysau-T graffeg, posteri a llyfrynnau ar gyfer cwmnïau syrffio a gwyliau cerddoriaeth, gan ddatblygu sgiliau dylunio hunanddysgedig a arweiniodd at yrfa yn gweithio gyda brandiau syrffio ac awyr agored rhyngwladol blaenllaw.

Yn fwy diweddar, mae Jonty wedi trosi ei ymarfer darlunio digidol yn brosesau analog, gan weithio gyda phaent, collage, pastel a phensil i greu golygfeydd arfordirol bywiog. Wedi’i ddylanwadu gan gelf werin forwrol, hiraeth am lan y môr a gwrthddiwylliant syrffio, mae ei waith yn archwilio’r tensiwn rhwng bywyd gwledig arfordirol a’r ysbryd gwrthsefydliadol, gwrthryfelgar o syrffio a sglefrio – gan gyfeirio at y gorffennol tra’n symud ymlaen gyda phaletau lliw modern a beiddgar.

Yn ogystal â hyn, mae wedi dechrau arbrofi gyda serameg crochenwaith caled, gan greu ffurfiau syml, swyddogaethol wedi’u hysbrydoli gan yr arfordir.

//

Surfer, dad, RNLI crew member, image maker and illustrator, Jonty Storey is Creative Director at husband-and-wife run design studio Cardigan. He lives by the sea in Llanbedrog, North Wales, with his wife and two children.

Jonty’s connection to the ocean began with childhood caravan holidays on the coast. Summers spent in North Wales, followed by years working in local surf shops, led to a lifelong passion - and borderline obsession - for being in and on the sea. Growing up in rural Cheshire, his escape came through his older brother’s skate magazines and VHS tapes: glimpses of the bohemian surf and skate culture of the 80s and 90s, worlds away from his country upbringing, and a lasting influence on his creative direction.

After finishing art college in Northwich, Jonty split his time between winters snowboarding in the Alps and Canadian Rockies, and summers surfing in Wales. He began producing T-shirt graphics, posters and brochures for surf companies and music festivals, developing self-taught design skills that led to a career working with leading international surf and outdoor brands.

More recently, Jonty has translated his digital illustration practice into analogue processes, working with paint, collage, pastel and pencil to create vibrant coastal scenes. Influenced by nautical folk art, seaside nostalgia and surf counterculture, his work explores the tension between rural coastal life and the rebellious, anti-establishment spirit of surf and skate - nodding to the past while pushing forward with bold, modern colour palettes.

Alongside this, he has begun experimenting with stoneware ceramics, creating simple, functional forms inspired by the coast.

7 products