Collection: Noelle Griffiths & Kim Atkinson
Astudiodd Noëlle Griffiths Gelfyddyd Gain yn St Martin’s School of Art, Llundain, rhwng 1978 a 1982. Mae hi a’itheulu wedi byw yn Eryri ers bron i ddeugain mlynedd. Yn 1992, cychwynasant ar brosiect hirdymor i glirio 30 erw o blanhigfa gonwydd, gan greu coedwig llydanddail a phorfa. Mae hyn wedi llywio ei gwaith a’i pherthynas â’r tir.
Cedwir ei phaentiadau a’i llyfrau artist mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y Llyfrgell Brydeinig a’r V&A. Rhwng 1998 a 2022, roedd Noëlle yn diwtor arweiniol ar gyfer gradd BA (Anrhydedd) Celfyddyd Gain rhan-amser Prifysgol Bangor, ac fe addysgodd gyrsiau o’i stiwdio yng Nghymru ac yn Extremadura ac Andalusia yn Sbaen. Mae Noëlle wedi derbyn nifer o wobrau, preswylfeydd a bwrsariaethau teithio, yn fwyaf diweddar yn 2023 fel Artist Preswyl yng Ngwarchodfa Biosffer Cape Horn, Chile.
Astudiodd Kim Atkinson Gelfyddyd Gain yng Ngheltenham a Darlunio Hanes Naturyn The Royal College of Art, Llundain, ac ar ôl graddio ym 1987 dychwelodd i gartref ei phlentyndod ar Ynys Enlli. Bu hi a’i gŵr yn byw ar Enlli am naw mlynedd ac maent yn parhau i fyw ym mhen draw Pen Llŷn.
Roedd diddordeb cynnar mewn natur, a anogwyd gan ei rhieni, wrth wraidd ei bywyd artistig, ac arweiniodd hyn at nifer o brosiectau o 1992 ymlaen gyda’r Artists for Nature Foundation (wedi’i leoli yn yr Iseldiroedd), gan gynnwys teithio gyda grŵp rhyngwladol o artistiaid bywyd gwyllt i Wlad Pwyl, India, Ffrainc, Periw ac Ewrop i dynnu sylw at gadwraeth yn yr ardaloedd hyn.
Fe’i hetholwyd yn aelod o’r Society of Wildlife Artists ym 1992, ac mae’n arddangos yn flynyddol gyda hwy yn The Natural Eye, Mall Galleries, yn ogystal â chymryd rhan gyda’r SWLA mewn cyfres o arddangosfeydd a chyhoeddiadau, y diweddaraf yn ymwneud â Phrosiect Adfer Little Massingham Heath yn Norfolk.
Noëlle Griffiths studied Fine Art at St Martin's School of Art, London, from 1978 to 1982. She and her family have lived in Eryri (Snowdonia), Wales, for nearly forty years. In 1992, they embarked on a long-term project clearing 30 acres of conifer plantation, returning the land to broadleaf woodland and pasture. This has informed her work and relationship with the land.
Her paintings and artist's books are held in various public collections, including the National Library of Wales, British Library and V&A. Between 1998 and 2022, Noëlle was lead tutor for Bangor University parttime BA (Hons) Fine Art Degree and taught courses from her studio in Wales and in Extremadura and Andalusia in Spain. Noëlle has received various awards, residencies and travel scholarships, most recently in 2023 as Artist in Residence at the Cape Horn Biosphere Reserve, Chile.
Kim Atkinson studied Fine Art at Cheltenham and Natural History Illustration at The Royal College of Art, London, and on graduating in 1987 returned to her childhood home, Ynys Enlli. She and her husband lived on Enlli for nine years and continue to live at the far end of Pen Llŷn.
An early interest in nature, encouraged by her parents, has been at the centre of her artistic life, and has led to several projects from 1992 with the Dutch-based Artists for Nature Foundation, including travelling with an international group of wildlife artists to Poland, India, France, Peru and within Europe to highlight conservation in these areas.
Elected in 1992 as a member of the Society of Wildlife Artists, she exhibits annually with them at The Natural Eye, Mall Galleries, as well as participating with the SWLA in a series of exhibitions and publications, the latest being the Little Massingham Heath Restoration Project in Norfolk.
-
O'r Goedwig / Of the Forest
- Regular price
- £1,750.00
- Sale price
- £1,750.00
- Regular price
-
- Unit price
- per
Sold out