Collection: Alison Cross
“Dechreuais arlunio pan yn blentyn ac yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, mae celf wedi bod yn ddihangfa i mi erioed ac mae’n rhoi cymaint o heddwch i mi. Pan ddechreuais arlunio, dros 20 mlynedd yn ôl, aeth therapydd galwedigaethol â fi i Blas Glyn y Weddw, yr oriel gyntaf i mi ymweld â hi a dyna pryd y canfyddais fod celf yn fy helpu i ymdopi â fy salwch.
Defnyddiais bastelau, ond ychydig cyn covid dechreuais ddefnyddio beiros mân, mae llawer o bobl yn defnyddio'r pennau hyn gyda llyfrau lliw oedolion i helpu i ymdopi â phryder. Penderfynais drio tynnu llun gyda nhw a dyna sut ddechreuais i – dwi’n ei alw’n ‘lock down style’ gan fy mod i’n mwynhau defnyddio cyfrwng cymysg o feiros a beiros arylic ac weithiau dwi’n tynnu llun gyda blaen pin nodwydd 0.1m.
Dwi hefyd yn artist ysbrydol sydd wrth ei bodd yn mynegi pethau trwy gelf gan gynnwys cariad, pethau fel cathod du, robin goch (weithiau’n gudd yn fy narluniau), a hyd yn oed fy ngholi Cymreig, Jac, fy ffrind gorau.
Cefais fy ngeni a'm magu yng ngogledd Cymru. Es i Ysgol Y Gorlan yn Nhremadog cyn mynychu Ysgol Eifionydd, Porthmadog. O ganlyniad rwy'n adnabod yr ardal leol yn dda.”
“I started drawing as a child and suffering from a mental health illness, art has always been my escape and it gives me such peace. When I started drawing, over 20 years ago, an occupational therapist took me to Plas Glyn y Weddw, which was the first gallery I visited and it was then that I found that art helps me cope with my illness.
I used pastels, but just before covid I started using fineliner pens, many people use these pens with adult colour books to help cope with anxiety. I decided to try to draw with them and that’s how I started – I call it the ‘lock down style’ as I enjoy using a mixed media of pens and acrylic pens and sometimes I draw with 0.1m needle pin tip.
I’m also a spiritual artist who loves expressing things through art including love, things like black cats, red robins (sometimes hidden in my paintings), and even my Welsh collie, Jac who is my best friend. I was born and bred in north Wales and went to Ysgol Y Gorlan in Tremadog before attending Ysgol Eifionydd, Porthmadog. As a result, I know the local area well.”
Sorry, there are no products in this collection