Collection: Jane Fellows

Symudodd Jane i Benrhyn Llŷn ym mis Tachwedd 2023, cartref ei neiniau a theidiau ar ochr ei mam, ardal y mae’n ei adnabod yn dda gan iddi dreulio gwyliau plentyndod rheolaidd ym Mhwllheli. Mae’r golygfeydd godidog yma’n parhau i ysbrydoli Jane i beintio tirweddau a morluniau mynegiannol, gweadol yn ogystal ag adar y môr ac anifeiliaid.

Yn dilyn cwblhau gradd yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn gynnar yn y 1990au, bu Jane yn gweithio yn Amgueddfa’r Gwydr Lliw yn Eglwys Gadeiriol Ely am 13 mlynedd, gan gynnal gweithdai a theithiau tywys o’r casgliad. Cymerodd ran yn rheolaidd yn y Cambridge Open Studios ac roedd yn mwynhau rhoi arddangosiadau o’i thechnegau paentio i ysgolion lleol a chymdeithasau celf.

Ers symud i Ogledd Cymru, mae Jane wedi sicrhau gofod stiwdio yng Nghei Llechi Caernarfon wrth ochr y castell a’r harbwr hardd. Gellir gweld a phrynu ei phaentiadau gwreiddiol a’i phrintiau yma. Mae wedi sefydlu dosbarthiadau paentio rheolaidd yn Neuadd Bentref Llannor ac mae’n parhau i ysbrydoli eraill i beintio drwy gynnig arddangosiadau a gweithdai ledled Gwynedd a Dwyrain Anglia.

Mae gwaith diweddar Jane wedi’i arddangos yn: Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog, Oriel y Castell, Cricieth, Y Maes, Cricieth ac Uned 1, Cei Llechi, Caernarfon. 

//

Jane moved to the Llŷn Peninsula in November 2023, the home of her maternal grandparents and a place she knows well from regular childhood holidays to Pwllheli. The breathtaking scenery here continues to inspire Jane to paint expressive, textural land and seascapes as well as seabirds and animals.

Following a degree in Arts and Humanities in the early 1990’s Jane worked in The Stained Glass Museum in Ely Cathedral for 13 years running workshops and giving guided tours of the collection. Jane regularly took part in Cambridge Open Studios and enjoyed giving demonstrations of her painting techniques to local schools and art societies.

Since moving to North Wales, Jane has acquired a studio space at Cei Llechi in Caernarfon alongside the castle and picturesque harbour. Her original paintings and prints can be viewed and purchased here. She has set up regular painting classes at Llannor Village Hall and continues to inspire others to paint by offering demonstrations and workshops across Gwynedd and East Anglia.

Jane’s recent work has been exhibited at: Oriel Plas Glyn Y Weddw, Llanbedrog; Castle Gallery, Criccieth; Y Maes, Criccieth; Unit 1, Cei Llechi, Caernarfon. 

1 product
  • Gylfinir / Curlew
    Regular price
    £595.00
    Sale price
    £595.00
    Regular price
    Unit price
    per 
    Sold out