Collection: Bethan Llwyd
Bethan Llwyd ydw i. Er mod i yn gweithio fel nyrs ers 1989, mae arlunio wedi bod yn y cefndir ers dyddiau'r ysgol, ac er fy mod wedi bod yn ffodus o gael arddangos a gwerthu fy ngwaith blynyddoedd nôl (tua 20 mlynedd ‘nôl bellach!), wrth i fywyd brysuro, ac wrth i ‘Mam’ droi’n ‘Nain’, roedd rhaid anghofio am yr arlunio.
Yna, ychydig flynyddoedd nôl, pan ddechreuodd yr artist Carys Bryn gynnig gwersi arlunio, neidiais ar y cyfle i roi ail fywyd i’r diddordeb!
Bellach, wedi dwy flynedd o ail fagu’r hyder a cael y cyfle i arbrofi gyda gwahanol arddull, dwi’n teimlo’n barod i ail arddangos fy ngwaith. Mae gwneud llunia o bobl wedi apelio atai ers blynyddoedd; efallai y ffaith fy mod yn gweithio gyda pobol o ddydd i ddydd sydd yn enyn fy niddordeb, mae i bob unigolyn ei stori ai brofiad bywyd ; mae cael mynd ati i roi’r cymeriadau ar bapur yn stori ynddi’i hun.
I mi, mae arlunio yn fodd o therapi, yn gyfle i ddianc ac anghofio am fywyd pob dydd, ac dwi’n gobeithio bydd fy ngwaith yn dod a’r un pleser i’r gynulleidfa ac a gâf i yn ei greu.
I'm Bethan Llwyd. Although I've been working as a nurse since 1989, drawing has been in the background since school days, and although I was lucky to be able to exhibit and sell my work years ago (around 20 years 'back now!), as life got busy, and as 'Mum' turned into 'Grandma', I had to forget about drawing.
Then, a few years ago, when the artist Carys Bryn started offering drawing lessons, I jumped at the chance to give the interest a second life!
Now, after two years of regaining the confidence and having the opportunity to experiment with a different style, I feel ready to display my work again. Drawing people has appealed to me for years; perhaps the fact that I work with people day to day is what gets me interested, each individual has their own story or life experience; getting to put the characters on paper is a story in itself.
For me, drawing is a form of therapy, an opportunity to escape and forget about everyday life, and I hope my work will bring the same pleasure to the audience as I get to create it.
Sorry, there are no products in this collection