Collection: Linda Davies

Mae Linda Davies yn argraffydd a chynhyrchydd cyfryngau cymysg o Gymru, o Ddyffryn Rhymni yn Ne Cymru yn wreiddiol ac yn byw’n awr yn Eryri, Gogledd Cymru. Mae ei gwaith yn aml yn trafod cysyniadau o amser, lle a pherthyn. Mae archwilio’r cysylltiadau sydd yn y tir, a’r effaith sydd gan natur ac ymyrraeth ddynol arno, yn ganolog i’r materion hyn.

Mae nifer o grantiau a bwrsariaethau wedi galluogi iddi weithio, arddangos, ac ymgysylltu gyda chynhyrchwyr, stiwdios, a llenorion yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Cafodd ei phrosiect cydweithredol gyda’r awdures Jill Teague, ‘A Path through the Trees I and II’, ei arddangos yn Brooklyn Gallery yn Efrog Newydd. Yn ddiweddar, cyflwynodd gyfres o weithiau o’r enw ‘Striatal I–VI’ yn IMPACT 12 International Multidisciplinary Printmaking Conference ym Mryste. Bu hefyd yn cymryd rhan yn ‘We Live with the Land/Ein Bro, Cyd-fyw â’r Tir’, prosiect a sefydlwyd trwy letya artistiaid yng Nghymru, gan gyfrannu at brosiect argraff cyfnewid rhwng stiwdios yng Nghymru a Seland Newydd. Mae Davies yn arddangos yn rheolaidd gyda Aberystwyth Printmakers.

Bu’n gynghorydd cydlynydd yn The Regional Print Centre, Wrecsam, yn ddarlithydd mewn celf gain ym Mhrifysgol Bangor, ac hyd yn ddiweddar yn hyfforddwr argraffydd yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Dolgellau. Yn awr mae’n rhedeg ei gweithdai ei hun mewn argraffu, celf llyfrau a lluniadu cyfrwng cymysg.

//

Linda Davies is a Welsh printmaker and mixed-media artist, originally from the Rhymney Valley in South Wales and now residing in Eryri, North Wales. Her work often deals with concepts of time, place and belonging. Integral to these concerns is the exploration of associations held in the land, and the impact of nature and human intervention upon it. 

Several grants and bursaries have allowed her to work, exhibit, and collaborate with artists, studios, and writers nationally and internationally. Her collaborative project with writer Jill Teague, ‘A Path through the Trees I and II’, was exhibited at Brooklyn Gallery in New York. More recently, she presented a series of works titled ‘Striatal I–VI’ at the IMPACT 12 International Multidisciplinary Printmaking Conference in Bristol. She also participated in ‘We Live with the Land/Ein Bro, Cyd-fyw â’r Tir’, a residency-initiated project based in Wales, and contributed to an exchange print collaboration between studios in Wales and New Zealand. Davies is a regular exhibitor with Aberystwyth Printmakers. 

She was a previous Assistant Co-ordinator at The Regional Print Centre, Wrexham, for many years a lecturer in Fine Art at Bangor University and until very recently printmaking tutor at Coleg Meirion Dwyfor, Dolgellau. She now runs her own workshops in printmaking, book arts and mixed-media drawing.

1 product
  • Cysylltiad / Connection
    Regular price
    £2,200.00
    Sale price
    £2,200.00
    Regular price
    Unit price
    per 
    Sold out