Collection: Simon Whitehead
Fel artist symudiad, mae Simon yn gweithio’n hynod leol ac yn rhyngwladol. Mae’n ysgrifennu, yn cyhoeddi llyfrau, yn creu eco-goreograffïau, yn cynnal gweithdai wedi’u lleoli’n agos i’w gartref ac yn cerdded yn helaeth (ar hyn o bryd mae’n cerdded ymylon Cymru).
Ers 1993 mae Simon wedi cynnal Locator, gweithdy arbrofol parhaus sy’n ymchwilio i syniadau ecolegol drwy ymarfer symudiad, wedi’i leoli yn Tycanol, coetir derw digoes hynafol yn Sir Benfro. Mae’n aelod o Maynard Abercych, cyd-gasgliad o artistiaid sy’n cydweithio ar raglen o weithgarwch dawns ymgysylltiol ym mhentref Abercych a dyffryn isaf y Teifi, gan guradu preswyliadau parhaus, dawns y pentref, gweithdai a phartneriaethau lleol a rhyngwladol.
Mae wedi datblygu’r gwaith sain Dulais drwy recordiadau maes parhaus gyda’i gitâr Fender Stratocaster ar yr afon ger ei gartref ers 2006. Rhyddhawyd albwm argraffiad cyfyngedig yn gynnar yn 2025 gan label cerddoriaeth East Cape Calling.
Y llynedd cwblhaodd Simon PhD ymarfer-fel-ymchwil. Gan archwilio ecolegau estynedig cyffwrdd mewn perthynas â meddwl ôl-ddyneiddiol cyfoes, mae ei brosiect yn awgrymu mai drwy gyffwrdd yr ydym yn deall ein bod yn perthyn i’r Ddaear symudol hon.
Derbyniodd Simon Wobr Greadigol Cymru yn 2004-2005 a 2012-2013
//
As a movement artist, Simon works hyper-locally and internationally. He writes, publishes books, makes eco-choreographies, runs situated workshops close to home and walks widely (he is currently circumnavigating the edges of Wales).
Simon has hosted Locator since 1993, an ongoing experimental workshop researching ecological ideas through movement practice, situated in Tycanol, an ancient sessile oak woodland in Pembrokeshire. He is a member of Maynard Abercych, an artist collective collaborating on a programme of engaged dance activity in the village of Abercych and lower Teifi valley, curating ongoing residencies, the village dance, workshops, local and international partnerships. He has developed the sound work Dulais, through ongoing field recordings with his Fender Stratocaster, on the river near his home since 2006. A limited edition album was released in early 2025 by music label East Cape Calling.
Last year Simon completed a practice-as-research PhD. Exploring expanded ecologies of touch in relation to current post-humanist thinking, his project proposes that it is through touch that we understand ourselves to belong to this moving Earth.
Simon received the Creative Wales Award in 2004-2005 and 2012-2013
-
Cyrff Ffrwythlon 2 / Fruitful bodies 2
- Regular price
- £85.00
- Sale price
- £85.00
- Regular price
-
- Unit price
- per
Sold out -
Cyrff Ffrwythlon 1 / Fruitful bodies 1
- Regular price
- £85.00
- Sale price
- £85.00
- Regular price
-
- Unit price
- per
Sold out