Collection: Zoe Lewthwaite
Mae fy ymarfer artistig wedi cael ei siapio gan y newid o'r ffordd gyflym o fyw a gweithio yn Llundain yn dilyn symud yn ôl adref i dawelwch Pen Llŷn. Ers 2021, rwyf wedi bod datblygu fy ymarfer fel argraffydd tecstilau yn fy stiwdio yng Nghanolfan Grefftau Aberuchaf, Abersoch.
Mae cael lle creadigol fy hun yn rhoi’r amser a’r ffocws i mi ddatblygu fy arbenigedd mewn argraffu a chynnal gweithdai i hyrwyddo llawenydd a phwysigrwydd crefftau wedi'u gwneud â llaw. Rwyf hefyd yn defnyddio'r gofod i arddangos fy ngwaith a chynnig cipolwg o fy ngwaith creadigol i ymwelwyr sy'n mynd heibio, mewn lleoliad ymarferol a rhyngweithiol.
Mae symud yn ôl i Ben Llŷn wedi dyfnhau fy ngwerthfawrogiad o’r tirwedd a’r arfordir lleol ble y byddaf yn archwilio'r traethlinau a'r tir, nid yn unig fel ffynhonnell o ysbrydoliaeth ond hefyd fel adnodd cyfoethog ar gyfer deunyddiau. Gyda chynaliadwyedd mewn golwg ac ymwybyddiaeth o'r effaith sydd gan y diwydiant tecstilau ar yr amgylchedd, rwy'n ymwybodol o'r deunyddiau rwy'n eu defnyddio ac rwy'n mwynhau arbrofi â nhw, creu pigmentau naturiol fy hun tra'n gweithio'n bennaf gyda ffeibrau naturiol.
Mae fy mhroses ddylunio yn aml yn dechrau trwy ddarlunio digymell gydag inc a golosg ar roliau mawr o bapur sydd, yn fy marn i, yn cynorthwyo fy arddull arlunio ac yn ffurfio datblygiad naturiol yn fy ngwaith. Mae darlunio mewn ffordd llac a llawn mynegiant yn fy helpu i leddfu pwysau a chofleidio camgymeriadau ar hyd y ffordd; yn aml yn arwain at rai o'm darnau gwaith gorau. Mewn byd sydd yn aml yn blaenoriaethu perffeithrwydd, rwy’n credu ei fod yn bwysig dathlu ac amlygu gwerth a harddwch yr amherffaith.
My artistic practice has been shaped by my transition from the fast-paced lifestyle of working and living in London to moving back home to the tranquil rurality of Pen Llŷn. Since 2021, I have been developing my practice as a textile printmaker within my studio in Aberuchaf Craft Centre, Abersoch.
Having my own creative space provides me with the time and focus to develop my specialism in printmaking and host workshops to promote the joy and importance of handmade craft. I also utilise the space to showcase my work and offer visitors passing by a glimpse into my creative process in a hands-on and interactive setting.
Moving back to the Llŷn has deepened my appreciation for the local landscape and coastline where I explore the shorelines and terrain, not only as a source of inspiration but also as a rich resource for materials. With sustainability in mind and an awareness of the textile industry's impact on the environment, I am mindful of the materials I use and enjoy experimenting with creating my own natural pigments while primarily working with natural fibres.
My design process often starts by drawing spontaneously with ink and charcoal on large rolls of paper which I find aids my drawing style and forms a natural development in my work. Drawing in a loose and expressive way helps me to alleviate pressure and embrace mistakes along the way;often leading to some of my most cherished pieces of work. In a world that often prioritises perfection, I believe it’s important to celebrate and highlight the value and beauty of the imperfect.
-
'Gwymon III' HEB FFRÂM / UNFRAMED
- Regular price
- £80.00
- Sale price
- £80.00
- Regular price
-
- Unit price
- per
Sold out -
'Blodeuo II' HEB FFRÂM / UNFRAMED
- Regular price
- £60.00
- Sale price
- £60.00
- Regular price
-
- Unit price
- per
Sold out -
‘Gwymon III’ MEWN FFRÂM / FRAMED
- Regular price
- £500.00
- Sale price
- £500.00
- Regular price
-
- Unit price
- per
Sold out -
'Blodeuo I' HEB FFRÂM / UNFRAMED
- Regular price
- £60.00
- Sale price
- £60.00
- Regular price
-
- Unit price
- per
Sold out -
'Blodeuo' MEWN FFRÂM / FRAMED
- Regular price
- £200.00
- Sale price
- £200.00
- Regular price
-
- Unit price
- per
Sold out -
Ocr Melyn naturiol / Natural yellow ochre - DAW/NFS
- Regular price
- £0.00
- Sale price
- £0.00
- Regular price
-
- Unit price
- per
Sold out -
‘Blodeuo’ - Gwreiddiol / Original - DAW/NFS
- Regular price
- £0.00
- Sale price
- £0.00
- Regular price
-
- Unit price
- per
Sold out -
‘Blodeuo’ mewn Ocr Melyn / in Yellow Ochre
- Regular price
- £300.00
- Sale price
- £300.00
- Regular price
-
- Unit price
- per
Sold out -
'Blodeuo' - Gorchudd Lliain / Darn Tecstil sy'n hongian // Linen throw / Hanging Textile Piece
- Regular price
- £800.00
- Sale price
- £800.00
- Regular price
-
- Unit price
- per
Sold out