Collection: Barnaby Prendergast
Mae Barnaby Prendergast yn artist amlddisgyblaethol, gyda ffocws ar weithiau cerfluniol pren. Ar hyn o bryd mae wedi’i leoli ym Mynydd Llandegai, uwchben Bethesda, lle cafodd ei eni a’i fagu.
Mae themâu ‘ffurf yn dilyn swyddogaeth’ yn amlwg yng ngwaith Barnaby, yn enwedig yn ei gadeiriau ffon Cymreig. Mae’n mwynhau ffurfiau gweledol syml sydd â nodweddion swyddogaethol megis cadeiriau a stolion tair coes (‘nid yw tair coes yn siglo’).
Mae’n cael ei ysbrydoliaeth o dechnegau traddodiadol uno pren gwyrdd, gan fwynhau’r ffordd y mae pren yn ystumio wrth sychu ac yn adennill ei siâp dewisol dros amser.
Mae Barnaby yn cael ei ysbrydoliaeth o ffurfiau traddodiadol dodrefn Cymreig, a oedd unwaith yn gyffredin yng nghefn gwlad Cymru flynyddoedd yn ôl. Nid yw’n ystyried ei hun yn draddodiadolwr, ac mae’n hapus i ddefnyddio dril llaw Dewalt, gan ei fod yn credu y byddai’r ffermwyr a’r chwarelwyr a adeiladodd gadeiriau ffon wedi defnyddio un hefyd pe bai ganddynt un.
Astudiodd Barnaby reolaeth cefn gwlad yng Ngholeg Glynllifon, lle mynychodd fodiwl crefft pren gwyrdd. Fel unrhyw ddysgu ymarferol, fe fwynhaodd y modiwl hwn yn fawr.
Ar ôl gadael Glynllifon, mynychodd gwrs sylfaen celf ym Mharc Menai, Bangor, lle datblygodd ddiddordeb arbennig mewn cerflunwaith cinetig.
Yna, mynychodd gwrs Celfyddyd Gain yn UWE, Bryste, lle dechreuodd archwilio cerflunwaith sydd a chysylltiad Cymreig, gan ei fod yn gweld eisiau cartref ac eisiau unrhyw esgus i atgoffa ei hun o’i wreiddiau.
Dyfarnwyd ysgoloriaeth gelf Dewi Bowen i Barnaby yn 2025, ac mae wedi defnyddio y wobr i sefydlu stiwdio fach i barhau â’i waith coed.
----
Barnaby Prendergast is a multidisciplinary artist, with a focus on wooden, sculptural works. He is currently based in Mynydd Llandegai, above Bethesda, where he was born and brought up.
Themes of ‘form following function’ are prominent in Barnaby's work, particularly in his Welsh stick chairs. He enjoys visually simple forms with functional properties such as three legged chairs and stools (‘three legs don’t wobble’).
He takes inspiration from traditional greenwood joinery, for instance enjoying the warping of timber as it dries and reclaiming its preferred shape over time.
Barnaby takes inspiration from traditional forms of Welsh furniture, which were once staples in rural Wales years ago. He does not consider himself a traditionalist, and is happy using a Dewalt hand drill, as he believes the farmers and quarrymen, who built stick chairs would probably have used one too if they had one.
Barnaby studied countryside management at Coleg Glynllifon, where he attended a green wood craft module. Like any hands-on learning, he thoroughly enjoyed this module.
After leaving Glynllifon, he attended the art foundation course in Parc Menai, Bangor where he took a particular interest in kinetic sculpture.
Following college, he attended the Fine art course at UWE, Bristol, where he began exploring Welsh orientated sculpture, as he missed home and wanted any excuse to reminisce.
Barnaby was awarded with the Dewi Bowen art scholarship in 2025, which he has since used to set up a small studio to continue woodworking.
-
Cadair goch / Red chair
- Regular price
- £700.00
- Sale price
- £700.00
- Regular price
-
- Unit price
- per
Sold out -
Cadair ffon Gymreig / Welsh stick chair
- Regular price
- £600.00
- Sale price
- £600.00
- Regular price
-
- Unit price
- per
Sold out