Collection: Nerys Jones

Yn wreiddiol o Ddolwen ger Betws yn Rhos, ond bellach yn byw yn Llanrwst, mae Nerys yn artist gweledol sydd yn gweithio gyda tecsitilau , brodwaith , paent ac argraffiad. Mae ei magwraeth yn nghefn gwlad Cymru yn ddylanwad mawr ar ei gwaith , nid yn unig o ran lliwiau a
gwaead y tirwedd, ond yr iaith a dywediadau, a phethau bob dydd a gysylltir gyda’r cartref. 

Mae yn cyfuno pwytho llaw a brodwaith peiriant gyda argraffu, lliwio a pethau bob dydd yn ei gwaith. Mae’r gwaith sydd yn cael ei arddangos yn yr arddangosfa yma yn rhan o gasgliad o waith brodwaith. 

“Mae’r gwaith yn adlewyrchu themau gwahanol ac oll yn ymwneud gyda’i magwraeth wledig yng Nghymru.  Pethau bach dibwys, fel ail greu cornel o hoff flanced Gymreig o felin wlân Penmachno, amlen gyda neges wedi ysgrifennu arno mewn brys, llwyau te yn gaeth mewn pwyth. Hoffwn dynnu sylw at y pethau bach dibwys yma, a’u hailgyflwyno mewn ffordd newydd.”


Originally from Dolwen near Betws yn Rhos, but now living in Llanrwst, Nerys is a visual artist working with textiles, embroidery, paint and print. Her upbringing in rural Wales is a major influence on her work, not only the colours and textures of the landscape but the language and everyday domestic objects found in the Welsh household. 
She combines hand stitch and machine embroidery, print, dye and everyday objects in her pieces. The work on show in this exhibition is part of a collection of embroidery pieces. 
“The work reflects many themes all relating to her rural Welsh background. They might be small and insignificant, recreating a corner of a Welsh blanket, an envelope with a message written on it, teaspoons trapped in stitch. I want to draw attention to the small things in life, present them in a different way.”

0 products

Sorry, there are no products in this collection