Deilen ffawydd wedi sychu, edau, graffit / Dried beech leaf, thread, graphite
14 x 14cm (mesuriad heb ffrâm / measurement without frame)
Fel arfer rwy’n gweithio yn yr awyr agored gyda dyfrlliw neu bensil, ac gan nad oeddwn wedi cael cyfle i weld y goeden na’i lluniadu, penderfynais gasglu dail o’r man lle’r oedd y goeden wedi bod, eu sychu a’u gwasgu. Roeddwn yn hoff o’r ddeilen benodol hon gan fod ynddi rai tyllau bach a grëwyd gan bryfed, a oedd yn cyd-fynd â’r tyllau a wnaed gan y nodwydd a’r edau.
I tend to work in watercolour or pencil outdoors, and as I hadn’t had the chance to see the tree or draw it in person, I decided to collect leaves from where the tree had been, dry them and press them. I liked this particular leaf as it had some little insect holes in it, which matched the holes made by the needle and thread.