Colofn / Column
Colofn / Column
  • Load image into Gallery viewer, Colofn / Column
  • Load image into Gallery viewer, Colofn / Column

Colofn / Column

Regular price
£1,060.00
Sale price
£1,060.00
Regular price
Sold out
Unit price
per 
Tax included.

Un brigyn llwyfen; adrannau pren wedi'u cysylltu gyda tant piano / One beech branch : wood sections connected with piano string

Tiwbiau rhisgl wedi'u pwytho gyda weiren (techneg colosgi) / Bark tubes stitched with wire. Yakisugi (charring technique) 

Llifyn plisgyn cneuen Ffrengig ar y rhisgl mewnol / Walnut husk dye on inner bark 

18.5x113cm

Mae Jo yn artist a chrefftwr amlddisgyblaethol o Ynys Môn, gyda chefndir mewn gwyddor amgylcheddol. Gyda'i ymarfer hylifol, arbrofol, mae Jo wedi tynnu ar brofiad mewn celf, gwaith coed gwyrdd, ecoleg coetiroedd a barddoniaeth i archwilio prosesau sy'n ymgysylltu â'r amrywiaeth o ddeunyddiau y mae coeden ffawydd Coed Coexist, a syrthiodd mewn storm, wedi'u cynnig.
 
Mae gwreiddiau, rhisgl, pren canghennau, pren hollt, darnau pren wedi'u torri, naddion a blawd llif i gyd wedi chwarae rhan wrth greu corff o waith gyda dyfnder ac ystyriaeth.
 
Mae gwrthrychau swyddogaethol fel cadeiriau, stôl a llwyau yn eistedd ochr yn ochr gyda ffurfiau cerfluniol archwiliadol, printiau, a chasgliad o arsylwadau barddonol ar ffurf haikus. Mae'r haikus, wedi'u hysbrydoli gan elfennau o'r ffawydd, wedi'u paru â ffotograffau yn "Boc - Coed Coexist", llyfr wedi ei gynhyrchu mewn cydweithrediad gyda'r ffotograffydd John Draper. Mae'r llyfr hefyd yn dogfennu cynulliadau cymuned gwaith coed gwyrdd yng ngogledd-orllewin Cymru, "Dal i fyny a cherfio", lle rhannwyd rhywfaint o'r pren ffawydd ar gyfer gwneud.
 
O fewn gwaith Jo mae darn cydweithredol canolog: llen rhisgl dathlu, wedi'i gwneud gyda thri artist lleol: Maggie Evans, Emily Kyle Morison, a Lynne Stuart.
 
"Mae'r llawenydd a'r profiad o weithio gyda'n gilydd ar y llen rhisgl wedi bod yn danwydd i'n creadigrwydd ar y cyd ac ehangu ein harfer. Y tu hwnt i hyn mae wedi rhoi gwerthfawrogiad dwfn inni o rinweddau arbennig y goeden ffawydd benodol hon, sy'n dal hanes, straeon cudd a lle o fewn ecosystem y coetir."
 Jo Alexander.
 
“Boc” yw'r gair Eingl-Sacsonaidd am ffawydd ac o hyn daw'r gair “llyfr”

Jo is a multi-disciplinary artist and craftsperson from Ynys Môn, with a background in environmental science. With a fluid, experimental practice, Jo has drawn upon experience in art, green woodwork, woodland ecology and poetry to explore processes that engage the diversity of materials that the Coed Coexist storm-fallen beech tree has offered.

Roots, bark, branch wood, cleft timber, axed wood fragments, shavings and sawdust have all played a role in creating a body of work with depth and consideration. 

Functional objects such as chairs, stools and spoons sit alongside explorative
sculptural forms, prints, and a collection of poetic observations in the form of haikus. The haikus, inspired by elements of the beech, are paired with photographs in "Boc - Coed Coexist", a book collaboration with photographer John Draper. This book also documents gatherings of a NW Wales green woodworking community,"Catch up and carve", where some of the beech wood was shared for making.

Within Jo’s work is a central collaborative piece: a celebratory bark curtain, made with three local artists : Maggie Evans, Emily Kyle Morison, and Lynne Stuart.

"The joy and experience of working together on the bark curtain has been a fuel for our collective creativity and expansion of practice. Beyond this it has given us a deep appreciation of the special qualities of this particular beech tree, holding
history, hidden stories and place within the woodland ecosystem."
Jo Alexander.

“Boc” is the Anglo-Saxon word for beech and from this comes the word “book”