Pren / Wood
32 x 2 x 27cm
Bwrdd bara wedi’i gerfio â llaw.
Roedd y darn wedi’i seilio’n rhydd ac wedi’i ysbrydoli gan fwrdd bara fy hen daid o ddechrau’r 1900au. Mae fy nhad yn cofio ei fod yn cael ei ddefnyddio bob dydd gyda thwca o’r un cyfnod, wedi’i dreulio’n dda, yng nghegin fy nain ym Mhorth Amlwch. Ymhen amser daeth yn eiddo iddo ef ac fe fu mewn amryw o gartrefi yng ngogledd Cymru.
Roedd yn ymarferol, yn dactil, ac yn para’n hir.
Priodais yn Eglwys Sant Pedrog gan fod fy ngwraig yn lleol. Cerddais y traeth gyda’r teulu ac edmygais y coed ffawydd yn y Plas drwy’r tymhorau am dros 40 mlynedd neu fwy.
A hand carved breadboard.
The piece was loosely based and inspired by my great grandfather’s bread board from the early 1900s. My father recollects it being used with a well-worn twca of the same vintage daily in my nain’s kitchen in Amlwch Port. In time it became his and lived in various homes in north Wales.
It was functional and tactile and long lived.
I was wed in St Pedrog’s Church as my wife was local. Walked the beach with family and admired the beech trees at the Plas through the seasons for over 40 years or more.

