Collection: Eleanor Whiteman
“Mae fy nghefndir mewn daeareg a ffotograffiaeth wedi dyfnhau fy mherthynas â’r tirwedd, o ddyddiau oerllyd yn mapio’r creigiau fel myfyriwr, i oriau a dreuliwyd yn cerdded llwybr y clogwyn gyda fy nghamera. Mae cerdded a chysylltu â’r tirwedd yn rhan bwysig o fy mhroses gan fod hyn yn caniatáu i ddisgwrs ddatblygu gyda lle sydd bob amser yn esblygu a byth yn statig. Rwy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerffili felly mae gennyf fynediad hawdd i'r arfordir, ac mae ei ddaeareg unigryw yn ffynhonnell gyson o ysbrydoliaeth. Mae gen i ddiddordeb mewn meddwl am amser yn nhermau haenau, mewn ystyr llythrennol a chysyniadol ac mae'r themâu hyn o dir ac amser dwfn yn ailadroddus trwy gydol fy ymarfer. Rwyf wedi defnyddio llawer o brosesau gwahanol mewn ymgais i fynegi’n weledol y cysyniadau o amser a thirwedd gan gynnwys leino a thorri pren, ysgythriad, mono print, paentio a ffotograffiaeth.
Darparodd cyfnod preswyl diweddar gyda M.A.D.E. Caerdydd le i archwilio ffyrdd newydd o weithio gyda print. Darganfod posibiliadau newydd wrth brofi paramedrau gwahanol ddeunyddiau er mwyn symud i ffwrdd o’r llythrennol a chaniatáu i’r ‘marc’ fod yn naratif. Daeth y delweddau a ddeilliodd o hyn yn fwy am berthynas ffurfiol, patrwm, ffurf a lliw; arsylwi a chofio. Roedd hwn yn ddatblygiad cyffrous o fewn fy ymarfer ac rwy'n teimlo ei fod wedi paratoi'r ffordd ar gyfer arbrofi pellach a dim ond fel dechrau ar ddeialog newydd ydyw.”
“My background in geology and photography has deepened my relationship with the landscape, from bitterly cold days mapping the rocks as a student, to hours spent walking the cliff path with my camera. Walking and connecting with the landscape is an important part of my process as this allows a discourse to develop with a place that is always evolving and never static. I live and work in Caerphilly so have easy access to the coast, and its unique Geology is a constant source of inspiration. I’m interested in thinking about time in terms of layers, both in a literal and conceptual sense and these themes of land and deep time are recurrent throughout my practice. I have used many different processes in an attempt to express visually the concepts of time and landscape including lino and woodcut, etching, mono print, painting and photography.
A recent residency with Cardiff M.A.D.E provided a space to explore new ways of working with print. Discovering new possibilities whilst testing the parameters of different materials in order to move away from the literal and allowing the ‘mark’ to be the narrative. The resulting images became more about formal relationship, pattern, form and colour; observed and remembered. This was an exciting development within my practice and I feel that it has paved the way for further experimentation and is just the beginning of a new dialogue. “
-
Blaendraeth / Foreshore
- Regular price
- £350.00
- Sale price
- £350.00
- Regular price
-
- Unit price
- per
Sold out -
Ffenocryst / Phenocryst
- Regular price
- £350.00
- Sale price
- £350.00
- Regular price
-
- Unit price
- per
Sold out