Collection: Llio James

“Dwi’n wehydd llaw cyfoes yn cwmpasu cynlluniau traddodiadol i’n bywyd ni heddiw.”

 Mae Llio James yn wreiddiol o Dal-y-bont, Ceredigion wedi graddio mewn gwehyddu o Ysgol Gelf Manceinion (2009) gyda gradd Meistr mewn Dylunio: Ffasiwn a Thecstilau o Brifysgol Bath Spa. Ers hynny mae Llio wedi gweithio yn y diwydiant tecstilau yn Efrog Newydd, yr Alban, Lloegr a Chymru.

 Erbyn hyn, mae Llio yn gweithio o’i stiwdio yng Nghaerdydd, gan ddefnyddio gwŷdd dobby draddodiadol. Mae hi’n dylunio’r brethyn yn y stiwdio a’i gynhyrchu mewn melinau lleol yng Nghymru a Lloegr. Mae hi hefyd yn creu darnau comisiwn unigryw sy’n cael eu gwehyddu â llaw.

 Mae Llio wedi’i swyno gan decstilau a’u heffaith ar fywyd pob dydd.

“Cawn ein geni wedi ein lapio o fewn defnydd. Gwisgwn ddefnydd nesa at ein croen. Teimlwn garped o dan ein traed, cerddwn ar loriau pren a choncrit ac weithiau hyd yn oed rhedeg ar gobls stryd. Eisteddwn i ddiogi neu orffwys ar beth bynnag sy’n cysuro’n cyrff. Mae brethyn a gwead ymhobman a hyn sy’n fy ysbrydoli.”

 Fel gwehydd profiadol a chreadigol mae Llio yn gallu defnyddio ei dwylo a’i llygaid i greu defnydd cyfoes gyda’r nod o greu brethyn pwrpasol i’w drin, i’w ddefnyddio ac i’w garu o genhedlaeth i genhedlaeth.

“Mae’r teimlad o berthyn i wlad a diwylliant yn bwysig i mi ac un ffordd o’i fynegi yw trwy fy ngwaith. Dwi’n gweld gwehyddu yn ffordd o ddod a diwydiant a diwylliant ynghyd. Mae ‘ngwaith wedi ei wreiddio mewn ymdeimlad o berthyn. Y teimlad yn yr isymwybod o fod yn gysurus ac esmwyth yn fy nghynefin. Mae fy ngwaith yn archwilio’r patrymau traddodiadol Cymreig ‘dyn ni wedi eu gweld yn ein cartrefi ers cenedlaethau ond fy mryd yw dod â’r gwaith i fyd heddiw a dyfnhau y teimlad dwfn o darddiad.


Contemporary hand weaver encompassing traditional design in today’s language. Llio James originally from Tal-y-bont, Ceredigion is a graduate of weaving from Manchester School of Art (2009) with a Masters in Design: Fashion & Textiles from Bath Spa University. Llio has since worked within the textile industry in New York, Scotland, England and Wales.

Today, Llio works from her studio in Cardiff, Wales, using a traditional dobby loom. Designing the cloth in the studio and produced at local mills in Wales and England. She also creates unique commission pieces which are hand woven.

Llio is fascinated by textiles and their impact on everyday life.

“We are born and wrapped in cloth. We wear clothing next to our skin. Our feet walk along carpets, on wooden floorboards, on concrete slabs and on cobbled streets. We sit, drape, lounge on what will support and comfort our bodies. Textiles and texture are everywhere and this is my inspiration.”

As an experienced and creative hand weaver Llio is able to adapt the work as it evolves to build a contemporary cloth with the aim of creating bespoke cloth to be handled, to be used and to be loved generation after generation.

Llio’s inspiration also comes from the feeling of belonging to country and culture and this is strongly expressed in her work. The work is rooted in the sense of belonging - a subconscious feeling of being at ease; feeling comfortable in a natural habitat. Through this, her work explores traditional Welsh designs that date back generations with the aim of bringing them to life into today’s modern world.

5 products
  • Clustog Siarcol / Charcoal Cushion
    Regular price
    £89.00
    Sale price
    £89.00
    Regular price
    Unit price
    per 
    Sold out
  • Clustog Teracota / Terracotta Cushion
    Regular price
    £80.00
    Sale price
    £80.00
    Regular price
    Unit price
    per 
    Sold out
  • Clustog Teracota / Terracotta Cushion
    Regular price
    £89.00
    Sale price
    £89.00
    Regular price
    Unit price
    per 
    Sold out
  • Carthen Teracota / Terracotta Blanket
    Regular price
    £275.00
    Sale price
    £275.00
    Regular price
    Unit price
    per 
    Sold out
  • Carthen Bloc Coch / Red Block Blanket
    Regular price
    £675.00
    Sale price
    £675.00
    Regular price
    Unit price
    per 
    Sold out