Collection: Rhodri Evans

'Lle digrif y bûm heddiw / (I was in a happy place today)'  (23.03.25 - 05.05.25)
Llinell gyntaf y gerdd ‘Offeren Y Llwyn’ gan Dafydd ap Gwilym / First line of a poem by Dafydd ap Gwilym 

"Archwiliad mewn paent o fy hoff lefydd gwyllt"
"An exploration in paint of my favourite wild places"

Mae Rhodri Evans wastad yn cael ei ddenu i fannau gwyllt Bannau Brycheiniog ac Eryri. Mae hyn mewn gwrthgyferbyniad llwyr â thirwedd ddiwydiannol meysydd glo De Cymru, lle ganwyd ef i gymuned glos a Chymraeg.

 “Er fy mod yn peintio’r gwylltir, rwyf bob amser wedi bod yn hynod ymwybodol o'r frwydr dros oroesi a'r rôl y mae pobl yn ei chwarae wrth siapio'r mannau anghysbell hyn ac i'r gwrthwyneb. Yn y diwedd, mae pobl a lle wedi’u plethu’n annatod o’u gilydd, ac mae arwyddocâd diwylliannol tirwedd yn rhywbeth rwy’n ceisio’i archwilio fwyfwy yn fy mhaentiadau”.

Yn ogystal â mynyddoedd geirwon Eryri, mae Rhodri hefyd yn cael ei ddylanwadu gan dirwedd gwyllt Ynysoedd Heledd yr Alban lle mae’n byw ar hyn o bryd, ac mae ei amser yn cael ei rannu rhwng y ddau le arbennig hyn.

Yn ddiweddar mae Rhodri wedi bod yn gweithio ar gynfasau mawr sydd, yn ei farn ef, yn adlewyrchu graddfa a drama’r lleoedd y mae’n eu paentio yn fwy cywir. Mae ei waith yn bennaf mewn olew ar gynfas neu fwrdd ac mae'n dyniad o'r tirweddau sy'n ei ysbrydoli. 

“Mae’n bwysig iawn i mi ymgolli yn y dirwedd felly rwy’n braslunio i ddal y foment ar leoliad ac o’r brasluniau hyn mae gweithiau stiwdio mwy yn cael eu datblygu.”

***

Rhodri Evans is always drawn to the wild places of Bannau Brycheiniog and Eryri. This is in sharp contrast to the industrial landscape of the South Wales coalfields, where he was born into a close-knit Welsh speaking community.

 “Although I paint wilderness, I've always been acutely aware of the struggle for survival and the role that people play in shaping these remote places and vice versa. In the end, people and place are inextricably entwined and the cultural significance of landscape is something I increasingly try to explore in my paintings".

In addition to the rugged mountains of Eryri, Rhodri is also influenced by the wild landscapes of the Hebrides where he currently lives, and his time is shared between these two special places.

Recently Rhodri has been working on large canvases which he believes more accurately reflect the scale and drama of the places he paints. His work is mostly in oils on canvas or board and is an abstraction of the landscapes which inspire him. 

“It’s very important to me to be immersed in the landscape so I sketch to capture the moment on location and from these sketches larger studio works are developed.”

33 products
  • Cwm Idwal ac Y Garn / Cwm Idwal and Y Garn
    Regular price
    £1,000.00
    Sale price
    £1,000.00
    Regular price
    Unit price
    per 
    Sold out