{"title":"Linda Davies","description":"\u003cp\u003eMae Linda Davies yn argraffydd a chynhyrchydd cyfryngau cymysg o Gymru, o Ddyffryn Rhymni yn Ne Cymru yn wreiddiol ac yn byw’n awr yn Eryri, Gogledd Cymru. Mae ei gwaith yn aml yn trafod cysyniadau o amser, lle a pherthyn. Mae archwilio’r cysylltiadau sydd yn y tir, a’r effaith sydd gan natur ac ymyrraeth ddynol arno, yn ganolog i’r materion hyn.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae nifer o grantiau a bwrsariaethau wedi galluogi iddi weithio, arddangos, ac ymgysylltu gyda chynhyrchwyr, stiwdios, a llenorion yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Cafodd ei phrosiect cydweithredol gyda’r awdures Jill Teague, ‘A Path through the Trees I and II’, ei arddangos yn Brooklyn Gallery yn Efrog Newydd. Yn ddiweddar, cyflwynodd gyfres o weithiau o’r enw ‘Striatal I–VI’ yn IMPACT 12 International Multidisciplinary Printmaking Conference ym Mryste. Bu hefyd yn cymryd rhan yn ‘We Live with the Land\/Ein Bro, Cyd-fyw â’r Tir’, prosiect a sefydlwyd trwy letya artistiaid yng Nghymru, gan gyfrannu at brosiect argraff cyfnewid rhwng stiwdios yng Nghymru a Seland Newydd. Mae Davies yn arddangos yn rheolaidd gyda Aberystwyth Printmakers.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eBu’n gynghorydd cydlynydd yn The Regional Print Centre, Wrecsam, yn ddarlithydd mewn celf gain ym Mhrifysgol Bangor, ac hyd yn ddiweddar yn hyfforddwr argraffydd yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Dolgellau. Yn awr mae’n rhedeg ei gweithdai ei hun mewn argraffu, celf llyfrau a lluniadu cyfrwng cymysg.\u003cbr\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\/\/\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003e\u003cspan lang=\"EN-US\"\u003eLinda Davies is a Welsh printmaker and mixed-media artist, originally from the Rhymney Valley in South Wales and now residing in Eryri, North Wales. Her work often deals with concepts of time, place and belonging. Integral to these concerns is the exploration of associations held in the land, and the impact of nature and human intervention upon it. \u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003e\u003cspan lang=\"EN-US\"\u003eSeveral grants and bursaries have allowed her to work, exhibit, and collaborate with artists, studios, and writers nationally and internationally. Her collaborative project with writer Jill Teague, ‘A Path through the Trees I and II’, was exhibited at Brooklyn Gallery in New York. More recently, she presented a series of works titled ‘Striatal I–VI’ at the IMPACT 12 International Multidisciplinary Printmaking Conference in Bristol. She also participated in ‘We Live with the Land\/Ein Bro, Cyd-fyw â’r Tir’, a residency-initiated project based in Wales, and contributed to an exchange print collaboration between studios in Wales and New Zealand. Davies is a regular exhibitor with Aberystwyth Printmakers. \u003c\/span\u003e\u003cspan lang=\"EN-US\"\u003e\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\" style=\"margin-bottom: 0cm;\"\u003e\u003cem\u003e\u003cspan lang=\"EN-US\"\u003eShe was a previous Assistant Co-ordinator at The Regional Print Centre, Wrexham, for many years a lecturer in Fine Art at Bangor University and until very recently printmaking tutor at Coleg Meirion Dwyfor, Dolgellau. She now runs her own workshops in printmaking, book arts and mixed-media drawing.\u003c\/span\u003e\u003c\/em\u003e\u003cspan lang=\"EN-US\"\u003e\u003c\/span\u003e\u003c\/p\u003e","products":[{"product_id":"cysylltiad-connection","title":"Cysylltiad \/ Connection","description":"\u003cp\u003eYsgythru solar, lithograff, dargopîo monoteip a phowdr siarcol \/ Solar etching, lithograph, trace monotype and charcoal powder\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e65 x 65cm\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eYn y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi dogfennu coed yn syrthio o amgylch fy stiwdio yn Hafod y Llŷn, gan gymeryd diddordeb arbennig mewn systemau gwreiddiau a’r rhwydwaith myseliwm. Daeth gwreiddiau y goeden ffawydd a syrthiodd yn ganolog i’r prosiect Coed Coexist.\u003cbr\u003e\u003cbr\u003eCymerais rannau o’r goeden a darnau o siarcol yn ôl i fy stiwdio, gwnes inc o’r siarcol, ac fe’m ysbrydolwyd gan y pren llawn bwr i greu marciau sydd yn arwyddion.\u003cbr\u003e\u003cbr\u003eI ddatblygu’r gwaith ymhellach, defnyddiais blatiau solar fel dull i drawsnewid fy lluniadau siarcol i ffurf argraffiadol. Mae elfennau llosg a siarcol yn adlewyrchu’r deunydd gwreiddiol. Roedd haenau lithograffig yn cynnwys ystod o gyfeirnodau gweledol, gan gynnwys ffotograffau o systemau gwreiddiau, llwybrau nerfau, a sganiau o’m corff fy hun. Mae’r cyfuniad hwn o ddelweddau wedi helpu i adeiladu deialog rhwng ffurfiau organig y goeden ffawydd a’r rhwydweithiau mewnol yn y corff dynol, gan gryfhau’r ffocws thematig ar gysylltiad a thrawsnewid drwy’r gwaith.\u003cbr\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\/\/\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003eIn recent years, I have documented fallen trees around my studio at Hafod y Llŷn, with particular interest in the root systems and the mycelium network. The exposed roots of the fallen beech tree became central to the Coed Coexist project. \u003c\/em\u003e\u003cbr\u003e\u003cbr\u003e\u003cem\u003eI took sections and charcoal pieces back to my studio, made ink from the charcoal, and found inspiration in the burr-laden wood for gestural mark-making.\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003eTo further develop the work, I utilised solar plates as a method to transpose my charcoal drawings into print form. Burnt, charred elements reflect the source material. Lithographic layers incorporated a range of visual references, including photographs of root systems, nerve pathways, and scans of my own body. This combination of imagery helped to build a dialogue between the organic forms of the beech tree and the internal networks within the human body, reinforcing the thematic focus of connection and transformation throughout the work.\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e","brand":"Oriel Plas Glyn y Weddw","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":57685075001731,"sku":null,"price":2200.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0357\/3858\/3084\/files\/LindaDavies_Cysylltiad_1_80b2eda6-7020-4f1b-82ce-16028d05c4cf.jpg?v=1774623834"}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0357\/3858\/3084\/collections\/LindaDavies_Cysylltiad_1.jpg?v=1774623330","url":"https:\/\/oriel-plas-glyn-y-weddw.myshopify.com\/collections\/lillemor-latham-copy.oembed","provider":"Oriel Plas Glyn y Weddw","version":"1.0","type":"link"}