{"title":"Ant Lane","description":"\u003cdiv class=\"OutlineElement Ltr SCXW96902290 BCX0\"\u003e\n\u003cdiv class=\"OutlineElement Ltr SCXW34053053 BCX0\"\u003e\n\u003cp\u003eMae ymgysylltiad Ant â sain yn ymestyn dros sawl degawd. Adeiladodd ei amgaeadau uned sain drws car cyntaf drwy fowldio resin ffibr gwydr pan oedd yn ei arddegau hwyr, ac yn ei ugeiniau dechreuodd archwilio adeiladu siaradwyr hi-fi a sut y gellid cael buddion clywadwy drwy dealltwriaeth well o ddyluniad cabinet a deunyddiau, yn wreiddiol tra’n defnyddio’r un unedau gyrru. Ers hynny, mae ei waith wedi dilyn proses gyson o fireinio, wedi’i seilio ar ddealltwriaeth sy’n dyfnhau o unedau gyrru, dyluniad amgaeadau, a deunyddiau strwythurol. \u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eAr yr un pryd, mae Ant wedi treulio mwy nag ugain mlynedd yn gweithio fel saer coed a phlastrwr, gan ennill gwybodaeth ymarferol o ddeunyddiau ac adeiladu. Yn adnabyddus am ei gywirdeb manwl a’i angen i ddeall sut mae pethau’n gweithio, mae’n dod â chyfuniad o reddf crefft a thrylwyredd technegol i fyd sain. Mae ei ymarfer yn cael ei arwain gan wrando gofalus a gwelliant graddol. Ei nod yw creu sain sy’n teimlo’n gynnes ac yn drochol, yn dri dimensiwn ac yn naturiol - gan ganiatáu i sain gael ei deimlo cymaint ag y caiff ei glywed. \u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"MsoNormal\" style=\"mso-margin-top-alt: auto; mso-margin-bottom-alt: auto; line-height: normal;\"\u003e\/\/\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003eAnt’s engagement with sound spans a few decades. He built his first car-door speaker enclosures from moulding fibreglass resin in his late teens, and in his twenties began exploring hi-fi speaker-building and how audible benefits were gained from a better understanding of cabinet design and material, initially whilst using the same drive units. Since then, his work has followed a steady process of refinement, grounded in a deepening understanding of drive units, enclosure design, and structural materials.  \u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003eAlongside this, Ant has spent more than twenty years as a woodworker and plasterer, gaining a practical, hands-on knowledge of materials and construction. Known for his precision and his need to understand how things work, he brings a blend of craft intuition and technical rigour to sound.  His practice is guided by careful listening and incremental improvement. He aims to create audio that feels warm and immersive, 3-dimensional and natural – allowing sound to be felt as much as heard. \u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003c\/div\u003e\n\u003c\/div\u003e","products":[{"product_id":"beech-speakers","title":"Seinyddion ffawydd \/ Beech Speakers","description":"\u003cp\u003ePren ffawydd \/ Beech wood\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e55 x 27 x 37cm\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e“Mae gen i ddiddordeb yn y ffordd y mae sain yn ymddangos mewn gofod - sut mae’n teithio, yn llenwi ystafell, ac yn rhyngweithio â chorff y gwrandäwr.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eDewiswyd y deunyddiau nid yn unig am eu priodweddau acwstig, ond hefyd am eu presenoldeb corfforol a’u tarddiad. Mae’r pren a’r garreg leol yn cadw ymdeimlad o bwysau, oedran a lle. Mae haen gyfansawdd fewnol o bren haenog bedw, wedi’i gosod ar naw deg gradd i raen y ffawydd, yn gwella sefydlogrwydd y strwythur yn sylweddol.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae llechen yn mynd i’r afael â dau ffactor arwyddocaol mewn adeiladu cabinetau unedau sain: dirgryniad a gwasgariad amser.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae baffl trwchus o lechen yn gwrthsefyll plygu ac yn gorfodi bron pob egni o’r modur i symud aer yn hytrach nag i’r cabinet ei hun. Y canlyniad yw bas tynnach, trawsnewidiadau cliriach, a delweddu mwy manwl gywir. \u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eNid addurniadol yw’r deunyddiau naturiol a thraddodiadol a ddefnyddir yn y dyluniad hwn - maent yn rhan annatod ohono. Fe’u dewiswyd i greu dyluniad sy’n teimlo’n ddi-amser, yn onest, ac wedi’i wreiddio mewn crefft yn hytrach nag mewn tuedd.”  \u003cbr\u003e– Ant Lane \u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003e“I am interested in how sound emerges into space – how it travels, fills a room, and interacts with the listener’s body. \u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003eThe material was chosen not only for the acoustic properties, but also for its physical presence and origin. The local wood retains a sense of weight, age, and place. A birch ply internal composite layer greatly improves the stability of the structure.  \u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003eThe natural material used in this design, which is based on the golden ratio, is not just decorative – it is also integral and has been chosen to create a design that feels timeless, honest, and rooted in craft rather than trend.  \u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003eA quarter-wavelength transmission line greatly improves the bass drivers’ deep and well-articulated bass and is complemented beautifully by the silky smooth, high-quality treble units. A pair of very high-quality passive crossover networks brings the drivers together into a single, highly refined sound source.”  \u003c\/em\u003e\u003cbr\u003e\u003cem\u003e– Ant Lane \u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e","brand":"Oriel Plas Glyn y Weddw","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":57481967108483,"sku":null,"price":7215.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0357\/3858\/3084\/files\/IMG_9098copy.jpg?v=1778933747"}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0357\/3858\/3084\/collections\/Coed_speaker_1st.jpg?v=1778936797","url":"https:\/\/oriel-plas-glyn-y-weddw.myshopify.com\/collections\/ant-lane.oembed","provider":"Oriel Plas Glyn y Weddw","version":"1.0","type":"link"}